Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


245(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas? (TAQ369)

 

Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws yr asesiad o'r effaith amgylcheddol a wnaed ar losgydd y Barri, o gofio bod profion yn y gwaith eisoes wedi dechrau? (TAQ370)

(Caiff y Cwestiwn hwn ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol)

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

(15 munud)

NDM7208 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Dogfen Ategol
Datganiad y Dirprwy Lywydd

</AI5>

<AI6>

Pleidleisio ar Eitem 5

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y Pancreas

(60 munud)

NDM7191 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon cyflym.

2. Yn cydnabod bod tua 500 o achosion newydd  o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.

3. Yn cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.

4. Yn croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas yng Nghymru drwy:

a) triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;

b) diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; ac

c) cymorth cyfannol, drwy gymorth deietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn well.

 

Cyd-gyflwynwyr:

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

David Melding (Canol De Cymru)

 

Cefnogwyr:

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewein Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllid Llywodraeth Cymru

(60 munud)

NDM7206 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

2. Yn nodi bod Cymru, o ganlyniad i'r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arni rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, yn cael £1.20 y pen ar hyn o bryd am bob £1 y pen a gaiff ei gwatio yn Lloegr ar faterion datganoledig.

3. Yn croesawu'r £790 miliwn ychwanegol sy'n fwy na grant bloc Cymru sydd wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth y DU tuag at Gytundebau Twf ledled Cymru.

4. Yn cydnabod bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar ei lefel uchaf erioed.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fwy o fuddsoddiad ar y GIG gan Lywodraeth y DU i wella gwasanaeth iechyd Cymru;

b) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fuddsoddiad cynyddol ar addysg gan Lywodraeth y DU i wella system addysg Cymru;

c) diystyru unrhyw godiadau mewn trethi neu drethi newydd yng Nghymru rhwng nawr a'r etholiad nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y cytundeb rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol llywodraeth Cymru - Rhagfyr 2016

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Llywodraethau olynol yn San Steffan - o dan Lafur a'r Ceidwadwyr - wedi llywyddu dros dlodi rhwng cenedlaethau a thanfuddsoddiad cronig yng Nghymru.

2. Yn credu mai dylanwadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw'r allwedd i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2  ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.

Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd a chysylltedd digidol.

Yn nodi bod cylch gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU

Yn nodi, er gwaethaf y pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:

a) bod gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;

b) bod gwariant y pen ar addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

 Ystadegau Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth 2019 (Saesneg yn unig)

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Blaid Brexit - Cofrestr Lobïwyr

(60 munud)

NDM7205 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.

2. Yn credu y byddai cofrestr lobïwyr yn helpu i hyrwyddo didwylledd a thryloywder yng ngwleidyddiaeth Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar unwaith ar weithredu cofrestr lobïwyr ar gyfer Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.

Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Lobïo - Ionawr 2018

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod pleidleisio

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7207 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)

Gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>